Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 20 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 15.45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Graham AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Andrew RT Davies AC Keith Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Julie James AC Eluned Parrott AC Joyce Watson AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Minister for Economy, Science and Transport Jane Hutt AC, Gweinidog Cyllid Yr Arglwydd Nick Bourne, Collective Enterprise Zone Boards Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru Tracey Burke, Llywodraeth Cymru Jeff Collins, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru Elaina Gray, Ewrop Greadigol Natasha Hale, MEDIA Antennae UK Rob Halford, Pennaeth Cynllunio a Strategaeth, WEFO Anne Howells, Prifysgol Aberystwyth Dr. David Llewellyn, Ymgynghorydd annibynnol Jane McMillan, Acting Director Programme Management and Finance Division, WEFO Dr Liz Mills, Dadansoddwr Polisi Annibynnol Damien O'Brien, Cyfarwyddwr, WEFO Gethin Scourfield, Fiction Factory Films Ruth Sinclair-Jones, British Council |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Claire Morris (Ail Clerc) Olga Lewis (Dirprwy Glerc) Gregg Jones (Swyddog) Andrew Minnis (Ymchwilydd) Ben Stokes (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC, Dafydd Elis-Thomas AC a Byron Davies AC. Dirprwyodd Andrew RT Davies AC ar ran Byron Davies AC ac ar gyfer eitemau 4 a 5.
2 Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 5) (09.15-10.00)
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ruth Sinclair-Jones, Cyfarwyddwr Asiantaeth Genedlaethol y DU, Erasmus+, British Council a Natasha Hale, Pennaeth Sectorau, MEDIA Antennae UK.
2.2. Cytunodd y British Council i ddarparu gwybodaeth fanwl am berfformiad sefydliadau o Gymru yn y rhaglen ddysgu gydol oes a’r rhaglenni ieuenctid.
2.3 Cytunodd MEDIA Antennae UK i ddarparu data ar gyfranogiad Cymru yn rhaglen y cyfryngau a’r cymorth a ddarperir ganddynt (digwyddiadau ac ati.)
3 Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 6) (10.00-10.50)
3.1.Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Elaina Gray, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Canolfan Gelfyddydau Chapter a Gethin Scourfield, Cynhyrchydd, Fiction Factory Films.
4 Ardaloedd Menter (11.00-11.45)
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Cefnogwyd y Gweinidog gan Tracey Burke, Cyfarwyddwr Strategaeth. Roedd yr Arglwydd Bourne, Cadeirydd y Byrddau Ardaloedd Menter ar y Cyd hefyd yn bresennol yn y sesiwn.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
- nodyn (a diweddariadau rheolaidd yn y dyfodol) am y cynnydd o ran darparu band eang cyflym iawn i ardaloedd menter o dan y rhaglen Cyflymu Cymru;
- nodyn am sut yr eir i’r afael â darparu band eang cyflym iawn (a’r dechnoleg band eang a ddefnyddir) mewn ardaloedd nad ydynt yn addas ar gyfer y rhaglen Cyflymu Cymru;
- y ffigurau o ran nifer y busnesau sy’n rhan o’r arolwg hydredol hirdymor, a’r gyfran o gyfanswm nifer y busnesau mewn ardaloedd menter yr oedd y ffigurau hynny’n eu cynnwys;
- nodyn ynghylch nifer y ceisiadau cymorth ardrethi busnes a gymeradwywyd fesul ardal ac, unwaith y bydd yn barod, gwybodaeth am y gyfran o’r dyraniad o’r gyllideb a ymrwymwyd, sef £20 miliwn, a wariwyd ar gymorth ardrethi busnes mewn gwirionedd, gan adlewyrchu’r niferoedd sy’n manteisio ar y cymorth hwn;
- fel rhan o’r diweddariad rheolaidd, dadansoddiad o’r ffordd y mae ardaloedd menter unigol yn perfformio o ran y swyddi a grëwyd, a gynorthwywyd ac a ddiogelwyd, a dangosyddion perfformiad allweddol perthnasol eraill (i’r graddau y gellir gwneud hynny o gofio ystyriaethau o ran sensitifrwydd masnachol).
5 Maes Awyr Caerdydd (11.45-12.30)
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Cefnogwyd y Gweinidog gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru a Jeff Collins, Rheolwr Prosiect, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru.
5.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
- nodyn am y gronfa cysylltedd teithiau awyr rhanbarthol a gyhoeddwyd yn y gyllideb a sut y bydd hynny’n cyd-fynd â’r canllawiau newydd ar gymorth gwladwriaethol;
- nodyn am gymorth gwladwriaethol yng nghyd-destun y twf a ragwelir yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r maes awyr;
- nodyn am ddefnydd swyddogol Llywodraeth Cymru o faes awyr Caerdydd;
- nodyn am ddefnyddio llain lanio maes awyr Caerdydd gyda’r nos - ardal fenter Sain Tathan.
6 Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 7) (13.20-14.00)
6.1.Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anne Howells, Swyddog Datblygu Ewropeaidd, Prifysgol Aberystwyth; Dr Liz Mills, Dadansoddwr Polisi Annibynnol a Dr David Llewellyn, Ymgynghorydd Annibynnol.
7 Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (14.00-14.45)
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid. Cefnogwyd y Gweinidog gan Damien O’Brien, Prif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol a Jane McMillan, Pennaeth Rheoli’r Rhaglen Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.
7.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
- Gwybodaeth ychwanegol am berfformiad Banc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru.
8 Y wybodaeth ddiweddaraf am Gronfeydd Strwythurol yr UE (14.45-15.30)
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid. Cefnogwyd y Gweinidog gan Damien O’Brien, Prif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol a Rob Halford, Pennaeth Cynllunio a Strategaeth.
9 Papurau i’w nodi
9.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol:
EBC(4)-08-14 (papur 7) – Gwybodaeth ychwanegol gan Masnach a Buddsoddi y DU
EBC(4)-08-14 (papur 8)– Gwybodaeth ychwanegol gan Masnach a Buddsoddi y DU (Rhaglen Cymorth Datblygu Gallu, Buddsoddi Uniongyrchol Tramor)
EBC(4)-08-14 (papur 9)– Gwybodaeth ychwanegol gan Masnach a Buddsoddi y DU (Pwyntiau Data)
Cofnodion y cyfarfod blaenorol.